BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Busnesau Bach Gogledd Cymru

Mae cynhadledd flynyddol y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) Gogledd Cymru yn dychwelyd â chasgliad o siaradwyr gwych, cyfleoedd rhwydweithio a’r cyfle i gael rhai offerynnau gwerthfawr i helpu’ch busnes ffynnu.

Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ar 13 Gorffennaf 2023 yng ngwesty Grosvenor Pulford Hotel and Spa, Pulford, CH4 9DG.

Bydd y sesiynau’n ymdrin â phynciau fel lles ariannol, gwydnwch personol, cadernid meddwl, sut i fabwysiadu diwylliant o wasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chwalu dirgelwch seiberddiogelwch. Yn y prynhawn, byddwch yn clywed am dueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn y cyfryngau cymdeithasol i fusnesau a sut i recordio’r fideo hyrwyddo perffaith.

Mae tocynnau ar werth tan ddydd Iau 6 Gorffennaf 2023 ac ni ellir eu hailagor, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu lle’n gynnar rhag i chi gael eich siomi.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen ganlynol North Wales Small Business Conference | FSB, The Federation of Small Businesses
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.