BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Caethwasiaeth Fodern: Cymru Wrthgaethwasiaeth 2023

Audience Applauding Speaker After Conference Presentation

Oeddech chi’n gwybod bod caethwasiaeth fodern yn realiti yng Nghymru ac ar draws y byd?

Llynedd, nododd Ymatebwyr Cyntaf dros 500 o unigolion a oedd, o bosibl, yn dioddef yn sgil y drosedd hon ledled Cymru, a bod degau o filoedd yn sownd mewn caethwasiaeth fodern ledled y byd, lle roeddent yn cael eu cam-drin a lle roedd pobl yn cam-fanteisio arnynt.

Eleni, i nodi Diwrnod Gwrthgaethwasiaeth ar 18 Hydref, rydym yn trefnu cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2023. Ysgol Fusnes Caerdydd sy’n ei chynnal, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yr heddlu a sefydliadau’r trydydd sector, gan gynnwys aelodau o Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru, a bydd y gynhadledd yn gyfle i glywed gan ymarferwyr rheng flaen ac arbenigwyr, a rhwydweithio gyda nhw.

Bydd y gynhadledd o ddiddordeb i ystod eang o bobl a chyrff ar draws sector cyhoeddus, sector preifat neu drydydd sector Cymru, ac rydym yn croesawu’r rhai sydd â phrofiad personol o gaethwasiaeth fodern ac yn eu hannog i fod yn rhan o hyn. Caiff y gynhadledd ei chynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein drwy Microsoft Teams.

Cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen Eventbrite yma.  Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â Executive-Education@cardiff.ac.uk.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.