BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Climate Creatives 2024

Film crew - sunrise

Eleni, am y tro cyntaf, bydd Climate Creatives yn dod yn fyw o Belfast, Caerdydd, Glasgow a Llundain gyda gweithgareddau a digwyddiadau arbennig ym mhob lleoliad. Byddwch yn gallu ymuno â'r gynhadledd ar-lein a lawrlwytho adnoddau i gefnogi sgyrsiau creadigol yn ymwneud â’r digwyddiad.

Thema'r diwrnod yw Natur. Dewch i ddarganfod ffyrdd newydd o drafod y pwnc sy'n mynd ymhell y tu hwnt i hanes natur, er mwyn pwysleisio pam bod natur yn hanfodol i'n lles a sut mae dros 'ganrif o'r hunan' wedi gadael llawer yn chwilio am fwy o gysylltiad. 

O natur drefol i gamdybiaethau’r gynulleidfa; o raglenni gêm i gymunedau lleol arloesol; a gwerth amrywiaeth ym myd natur ac yn ein cynnwys... mae Climate Creative yn addo eich cysylltu â syniadau mawr ac awgrymiadau ymarferol, gan bobl greadigol, golygyddion comisiynu ac arweinwyr meddwl.

Cynhelir y gynhadledd ar-lein ar 2 Hydref 2024.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim, cliciwch ar y ddolen ganlynol:  Cynhadledd Climate Creatives 2024

Mae gweithredu dros yr hinsawdd yn cynnig nifer o fanteision i'r amgylchedd, iechyd a lles, cymdeithas a'r economi. Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn gynhadledd rithwir 5 diwrnod, rhwng 11 a 15 Tachwedd 2024, a bydd yn cynnwys sesiynau ar effaith newid hinsawdd yn ein cymunedau, ar natur, amaethyddiaeth, diogelwch bwyd, busnes, trafnidiaeth, adeiladau a mwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Hafan | Wythnos Hinsawdd Cymru 2024 (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.