Ymunwch â Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd ar 3 Gorffennaf am ddiwrnod llawn trafodaethau dadlennol, syniadau arloesol, a strategaethau y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru.
Bydd y digwyddiad wyneb yn wyneb hwn yn dod ag arbenigwyr, masnach a gwneuthurwyr polisïau at ei gilydd i archwilio’r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnyddwyr gan Kantar, IDG a The Food People, gan ddysgu pam mae cynaliadwyedd yn bwysig i’r fasnach.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i fod yn rhan o’r sgwrs ac i gyfrannu at lunio dyfodol gwyrddach i Gymru!
I gael rhagor o wybodaeth, ac i gofrestru, dewiswch y ddolen ganlynol: Sustainability Conference 2024: Cynhadledd Cynaliadwyedd 2024 Tickets, Wed 3 Jul 2024 at 09:30 | Eventbrite