BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Diwydiant MADE Cymru

Mae MADE Cymru yn gyfres o brosiectau a ariennir gan yr UE a ddarperir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Gall y cyrsiau a achredwyd gan brifysgolion a'n cynllun cymorth busnes dan arweiniad arbenigwyr helpu unigolion a sefydliadau i addasu i heriau Diwydiant 4.0.

Drwy alluogi gweithgynhyrchwyr Cymru i fanteisio ar y technolegau uwch diweddaraf, mae y tri phrosiect craidd yn helpu i sicrhau newid aflonyddgar i ddiwydiant cynhyrchu Cymru tra'n annog cydweithio a thwf i fusnesau yng Nghymru.

Fel rhan o’n hymrwymiad i weithgynhyrchu yng Nghymru, mae MADE Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau 8-10 Mehefin 2021 i hysbysu, ymgysylltu ac ysbrydoli busnesau yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn o adferiad yn dilyn Covid. Arweinir yr holl ddigwyddiadau gan siaradwyr allweddol yn y diwydiant ac maent yn rhad ac am ddim i’w mynychu. Gallwch gofrestru ymlaen llaw ar gyfer cymaint ag yr hoffech fynychu trwy’r dolenni isod.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan MADE Cymru neu e-bost MADE@uwtsd.ac.uk
 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.