BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Hydref CEIC

Cynhelir Cynhadledd Hydref Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) ar 27 Medi 2022 ac mae'n wahoddiad agored i hyrwyddwyr amgylcheddol o bob rhan o dde Cymru a thu hwnt i drafod sut y gall ymdrechion graddol gael effaith sylweddol.

Mae rhaglen CEIC yn galluogi cydweithwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector i gydweithio a chreu cymunedau ymarfer i ddatblygu atebion arloesol i her fwyaf ein cenhedlaeth, mae'n debyg. 

Bydd Cynhadledd Hydref CEIC yn arddangos y gwaith anhygoel sy'n digwydd ar draws gwasanaethau cyhoeddus de Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Bydd y gynhadledd yn creu cyfleoedd i gyfarfod â'r cyfranogwyr presennol, dysgu mwy am beth maen nhw wedi bod yn ei wneud a siarad â thîm CEIC ynglŷn â chymryd rhan.

I drefnu lle yn y gynhadledd am ddim, defnyddiwch y ddolen ganlynol: Circular Economy Innovation Communities Autumn Conference Tickets, Tue 27 Sep 2022 at 09:30 | Eventbrite
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.