
Cynhelir Cynhadledd Perchnogaeth gan Weithwyr (EO) gyntaf Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Iau 1 Mai 2025.
Bydd y gynhadledd wedi'i hanelu at gwmnïau sy'n ystyried Perchnogaeth gan Weithwyr a chwmnïau sydd wedi trosglwyddo i Berchnogaeth gan Weithwyr.
Bydd yn darparu amrywiaeth eang o sesiynau addysgiadol, pob un yn cynnig cyngor ac arweiniad ymarferol. Mae'r gynhadledd yn cynnwys siaradwyr gwadd o ddiwydiant a chyngor proffesiynol gan Geldards, Azets ac RBC Brewin Dolphin.
Mae’r tocynnau'n costio £80 i'r cynadleddwr cyntaf ac yna £60 i bob cynadleddwr wedi hynny: Wales Employee Ownership Conference Tickets, Thu, May 1, 2025 at 9:00 AM | Eventbrite
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Wales Employee Ownership Conference 2025 | Geldards
Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos yn y gynhadledd, cysylltwch ag Ellie Hughes am ragor o wybodaeth.
Mae perchnogaeth gan weithwyr yn golygu bod gan bob gweithiwr fuddiant arwyddocaol ac ystyrlon yn y busnes: Perchnogaeth gan weithwyr | Busnes Cymru - Busnes Cymdeithasol Cymru