Bydd cynhadledd rithwir Allforio Cymru yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth a chyngor i allforwyr newydd a’r rhai sydd eisoes yn allforio ar bob agwedd ar allforio a sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eich busnes.
Yn y gynhadledd rithwir hon cewch gyfle i wneud y canlynol:
- Mynychu gweminarau – bydd y rhain yn ymdrin â phynciau allforio sy’n trendio.
- Cymryd rhan mewn Trafodaethau Bord Gron – bydd y rhain yn cael eu cynnal gan arbenigwyr pwnc, gan roi cyngor manwl ar rai o'r materion mwyaf cyffredin sy'n ymwneud ag allforio.
- Cyfarfodydd un-i-un – trefnwch gyfarfodydd un-i-un gyda Harbenigwyr Marchnad o Swyddfeydd Tramor Llywodraeth Cymru.
- Cael cyngor un-i-un – trefnwch gyfarfod un-i-un gyda Chynghorydd Masnach Ryngwladol i drafod eich gofynion allforio.
Mae'r gynhadledd rithwir yn cael ei chynnal rhwng 9 Mawrth a 11 Mawrth 2021.
Ewch i Digwyddiadaur Busnes Cymru i archebu eich lle.