BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data 2021

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi y bydd y Gynhadledd Ymarferwyr Diogelu Data (DPPC) yn cael ei chynnal ar 14 Ebrill 2021 yn ddigidol.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am i'r gynhadledd fod mor berthnasol ac ymarferol â phosibl ac maen nhw’n gofyn i'r rhai a fydd yn bresennol ddewis y meysydd pwnc yr hoffen nhw glywed amdanyn nhw, a fydd wedyn yn helpu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i lunio agenda'r gynhadledd.

Cwblhewch yr arolwg i gofrestru.

Gallwch gofrestru hyd at ddydd Gwener 19 Mawrth 2021. Bydd rhan un o'r arolwg, lle gallwch chi gyflwyno eich dewisiadau pwnc, ond ar gael tan ddydd Gwener 19 Chwefror 2021.

Ni chodir tâl am fynychu'r gynhadledd ddigidol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.