Os ydych yn gyflogwr sydd â llai na 250 o weithwyr, a'ch bod wedi talu Tâl Salwch Statudol i'ch gweithwyr am absenoldebau sy'n gysylltiedig â salwch neu hunanynysu sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws, gallech fod yn gymwys i gael cymorth.
Byddwch yn derbyn ad-daliadau ar gyfradd safonol berthnasol y Tâl Salwch Statudol a dalwyd gennych i'ch gweithwyr presennol neu gyn-weithwyr am unrhyw gyfnodau cymwys o salwch a ddechreuodd ar neu ar ôl 21 Rhagfyr 2021.
Byddwch yn gallu adennill y costau am hyd at bythefnos o Dâl Salwch Statudol ar gyfer gweithiwr sy'n cymryd amser i ffwrdd yn sgil y coronafeirws, waeth a wnaethoch hawlio ar gyfer y gweithiwr hwnnw o dan y cynllun blaenorol ai peidio.
Bydd modd i chi wneud hawliadau'n ôl-weithredol o ganol mis Ionawr.
Am ganllawiau llawn, gan gynnwys cymhwystra a sut i wneud hawliad, ewch i GOV.UK