Mae'r Cynllun Aer Glân yn nodi ystod o gamau gweithredu i'w cyflawni gan Lywodraeth Cymru a'n partneriaid i wella ansawdd aer y genedl.
Bydd y mesurau a amlinellir yn y Cynllun yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau presennol i leihau'r llygredd aer y mae'r cyhoedd yn dod i gysylltiad ag ef.
Bydd y camau hyn yn lleihau llygredd aer, risgiau iechyd ac anghydraddoldebau er mwyn gwella iechyd y cyhoedd.
Mae rhai o'r mesurau yn cynnwys:
- ymchwilio i fesurau i gefnogi gostyngiad yn y defnydd o gerbydau personol megis codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, Parthau Aer Glân a/neu Barthau Allyriadau Isel
- gweithredu strategaeth gwefru cerbydau trydan a chefnogi cynnydd yng nghyfran y cerbydau allyriadau lefel iawn (ULEV) ac annog newid i gerbydau allyriadau isel iawn i gasglu gwastraff
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.