Bwriad iteriad newydd y Cynllun Benthyciadau Adfer (RLS) yw cefnogi mynediad at gyllid i fusnesau yn y DU wrth iddynt geisio buddsoddi a thyfu.
Bydd yn cefnogi maint cyfleusterau o hyd at £2miliwn ar gyfer benthycwyr y tu allan i gwmpas Protocol Gogledd Iwerddon. Gall benthycwyr sy’n cael eu cwmpasu gan Brotocol Gogledd Iwerddon fenthyg hyd at £1miliwn oni bai eu bod yn gweithredu mewn sector lle mae terfynau cymorth yn cael eu lleihau - ac os felly mae'r uchafswm y gellir ei fenthyg yn destun terfyn is. Mae'r rhain yn cynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd / dyframaethu, a chludo nwyddau ar y ffyrdd.
Gall busnesau ddefnyddio'r cyllid at unrhyw ddiben busnes cyfreithlon – gan gynnwys rheoli llif arian, buddsoddiad a thwf. Fodd bynnag, mae'n rhaid i fusnesau allu fforddio ysgwyddo cyllid dyledion ychwanegol at y dibenion hyn.
Bydd The British Business Bank yn gweinyddu'r cynllun ar ran Ysgrifennydd Gwladol BEIS.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.british-business-bank.co.uk/ourpartners/recovery-loan-scheme/