Nod yr alwad hon gan y Rhaglen Technoleg Awyrofod Genedlaethol (NSTP) yw datblygu gallu sector awyrofod y DU trwy ddarparu cronfa sbarduno ar gyfer syniadau arloesol cynnar.
Mae grantiau hyd at £75,000 ar gael gan Lywodraeth y DU i sector awyrofod y DU ddatblygu technolegau masnachol a’u cyflwyno i’r farchnad.
Mae cyllid ar gael gan Asiantaeth Awyrofod y DU ar gyfer busnesau, a sefydliadau dielw ac academaidd.
Gofynnir am geisiadau ar gyfer prosiectau ymchwil technoleg awyrofod a phrosiectau datblygu mewn meysydd megis:
- arloesedd lefel parodrwydd technoleg gynnar
- cysyniadau technoleg newydd
- trosglwyddo gwybodaeth
- datblygu sgiliau
- mireinio syniadau
- cynnal arolygon i’r farchnad
- prawf o gysyniad
Mae’n bosibl y bydd angen cydariannu diwydiannol ar gyfer prosiectau penodol yn unol â Rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol yr UE.
Bydd yr alwad hon yn cau ganol dydd ar 10 Awst 2020.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.