Mae CThEM yn cynnal gweminarau am ddim ar y cynllun ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’, a bydd y gweminarau yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- trosolwg o'r cynllun
- sut mae'r cynllun yn gweithio
- sefydliadau cymwys
- cofrestru a gwneud hawliad
- beth sy'n digwydd ar ôl i chi hawlio
Mae nifer o ddyddiadau ac amseroedd i ddewis ohonynt, archebwch eich lle yma.
Mae CThEM hefyd wedi cynhyrchu posteri, delweddau a deunyddiau hyrwyddo eraill i'w defnyddio gan sefydliadau sy'n cymryd rhan yn y cynllun ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’. Mae'r adnoddau ar gael yn Gymraeg.
I gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r adnoddau ewch i wefan GOV.UK