BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Cefnogi’r Sector Llaeth yn agor ar gyfer ceisiadau

Y ceisiadau ar gyfer y cynllun newydd i roi cymorth i’r diwydiant llaeth yng Nghymru yn agor ar 18 Mehefin, i gefnogi’r ffermwyr yr effeithiwyd fwyaf arnynt gan yr amodau eithriadol diweddar o fewn y farchnad oherwydd Covid 19.

Trwy’r gronfa, bydd ffermwyr llaeth cymwys:

  • angen dangos  eu bod wedi dioddef gostyngiad o 25% neu fwy yn y pris a dalwyd ar gyfartaledd am eu llaeth ym mis Ebrill ac yn dilyn hynny ym mis Mai, o gymharu â mis Chwefror 2020
  • hawl i hyd at £10,000, i gynnwys oddeutu 70% o’r incwm a gollwyd ganddynt i helpu iddynt barhau i allu talu costau sefydlog a chynnal eu capasiti cynhyrchu heb iddo gael effaith ar les anifeiliaid a’r amgylchedd
  • angen darparu eu Datganiad Llaeth ar gyfer mis Chwefror, Ebrill a Mai 2020 fel dogfennau atodol

Bydd y cyfnod agor ar gyfer ceisiadau ar ganol mis Mehefin yn galluogi ffermwyr cymwys i gasglu eu datganiadau yn barod i gefnogi eu cais. Bydd canllawiau ar-lein ar gael i gefnogi’r broses hon.

Bydd y cyfnod y gellir gwneud cais am y cynllun ar agor tan 14 Awst 2020.  

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.