Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £18.7 miliwn yn rhagor er mwyn ymestyn cymhellion i helpu busnesau i recriwtio prentisiaid yng Nghymru.
Mae’r Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr, a fydd bellach yn rhedeg hyd at 30 Medi 2021, yn rhan allweddol o’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud mewn ymateb i COVID-19 er mwyn helpu busnesau a gweithwyr i adfer ar ôl effeithiau’r coronafeirws (COVID-19).
Mae hyn yn golygu y bydd busnesau'n gallu hawlio hyd at £4,000 ar gyfer pob prentis newydd o dan 25 oed y byddant yn eu cyflogi. Mae hyn wedi codi o’r £3,000 o grant a oedd yn cael ei gynnig yn flaenorol.
Bydd y cymhelliad o £4,000 ar gael i fusnesau a fydd yn cyflogi prentis ifanc am o leiaf 30 awr yr wythnos.
Gallai busnesau yng Nghymru hefyd gael £2,000 ar gyfer pob prentis newydd o dan 25 oed y byddant yn ei gyflogi am lai na 30 awr yr wythnos, sy’n gynnydd o £500.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.