BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Cymorth Biliau Ynni

Bydd miliynau o gartrefi ledled Prydain Fawr yn derbyn gostyngiadau na fydd angen eu had-dalu ar eu biliau ynni y gaeaf hwn, wrth i lywodraeth y DU amlinellu manylion pellach y Cynllun Cymorth Biliau Ynni.

Bydd y gostyngiad o £400, sy'n cael ei weinyddu gan gyflenwyr ynni, yn cael ei dalu i ddefnyddwyr dros 6 mis gyda thaliadau'n cychwyn o fis Hydref 2022, er mwyn sicrhau bod aelwydydd yn derbyn cymorth ariannol trwy gydol misoedd y gaeaf.

Bydd y rheiny sydd â phwynt mesurydd trydan domestig sy'n talu am eu hynni trwy gredyd safonol, cerdyn talu a debyd uniongyrchol yn derbyn didyniad awtomatig i'w biliau dros y cyfnod o 6 mis – sef cyfanswm o £400. 
Mae hyn hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr a thenantiaid eraill sy'n rhentu eiddo gyda chontractau trydan domestig gan landlordiaid lle mae costau ynni sefydlog yn cael eu cynnwys yn eu taliadau rhent. O dan yr amgylchiadau hyn, dylai landlordiaid sy'n ailwerthu ynni i'w tenantiaid basio'r taliadau gostyngol ymlaen yn briodol, yn unol â rheolau Ofgem i ddiogelu tenantiaid.

Daw'r cyhoeddiad wrth i lywodraeth y DU lansio gwasanaeth ar-lein i helpu perchnogion tai i wneud dewisiadau gwybodus ar effeithlonrwydd ynni eu cartrefi, a fydd felly'n helpu i leihau'r defnydd o ynni gan ddefnyddwyr a chostau ynni. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i £400 energy bills discount to support households this winter - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.