BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun cymorth i fusnesau bach

Mae BT wedi lansio ‘Small Business Support Scheme’, sy’n cyflwyno pob math o fesurau newydd i helpu busnesau bach gan gynnwys:

  • hybu cysylltedd – cyllido cysylltiadau busnes cyflym iawn, bwrsarïau ar gyfer busnesau newydd y DU, helpu busnesau bach i droi’n fusnesau dim arian parod
  • llif arian gwell – taliadau prydlon i gyflenwyr busnesau bach BT, hyblygrwydd ariannol i’r rhai sydd wedi’u taro waethaf
  • magu hyder – mentora, cael gafael ar hysbysebion digidol a’r cyfryngau cymdeithasol, caffael sgiliau digidol newydd, cymorth llesiant.

Rhagor o fanylion ar wefan BT.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.