Ar 21 Gorffennaf 2023, cyhoeddwyd cynllun amaeth-amgylcheddol dros dro i gynnal a chynyddu arwynebedd y tir cynefin sy'n cael ei reoli ledled Cymru.
Bydd y cynllun newydd, Cynefin Cymru, yn cynnig cynnig cymorth amgen i bob ffermwr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig pan ddaw eu contractau i ben ar 31 Rhagfyr 2023.
Nodau cynllun Cynefin Cymru yw:
- diogelu tir cynefin a oedd yn cael ei reoli’n flaenorol yn 2023 hyd at gyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn llawn yn 2025
- cyflwyno tir cynefin ychwanegol, nad yw dan reolaeth â thâl ar hyn o bryd, i reolaeth tir gynaliadwy cyn dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
- cynnal cefnogaeth amgylcheddol ar gyfer tir comin
Mae'r ffenestr ymgeisio ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru bellach ar agor.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cynllun Cynefin Cymru