BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Dychwelyd Ernes erbyn 2025

Mi fydd cynllun newydd i ddychwelyd cynhwysyddion diodydd erbyn 2025 yn helpu Cymru i wella ei chyfraddau ailgylchu ymhellach.

Cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, dydd Gwener, Ionawr 20 2023 y bydd Cymru'n cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes erbyn 2025.

Fel rhan o’r fenter newydd byddwn yn talu ernes fach pan fyddwn yn prynu diod mewn cynhwysydd untro, a gawn yn ôl pan fyddwn yn dychwelyd y botel neu'r can.

Mae Cymru'n cydweithio gyda Lloegr a Gogledd Iwerddon i sefydlu cynllun ar y cyd, sy'n golygu y gallwch brynu diod yn y Barri a'i ddychwelyd ym Mryste neu Belfast.

Mae'r Alban yn sefydlu ei chynllun ei hun, sy'n dechrau'n ddiweddarach eleni.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn deddfwriaeth ddiweddar i wahardd nifer o blastigion untro

Y deunyddiau a fydd yn rhan o’r cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru fydd cynhwysyddion diodydd a wneir o blastig polyethylene terephthalate (PET), dur, gwydr, ac alwminiwm.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.