Cyhoeddi Gweinidog Julie James gynllun newydd gwerth £50 miliwn i sicrhau bod mwy o gartrefi gwag yn cael eu hadfer.
Mae'r cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol, fydd yn para dros y ddwy flynedd nesaf, wedi'i ddatblygu i adeiladu ar lwyddiant mentrau blaenorol Llywodraeth Cymru fel Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd.
Gallai'r Cynllun Cartrefi Gwag Cenedlaethol weld hyd at 2,000 o eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto. Bydd y cynllun hwn yn cael ei gynnal ochr yn ochr â chynlluniau eraill Llywodraeth Cymru fel Cynllun Lesio Cymru sydd wedi'i gynllunio i wella’r cyfle i bobl gael tai fforddiadwy mwy hirdymor yn y sector rhentu preifat.
Ar wahân i berchen-feddianwyr, bydd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, awdurdodau lleol a grwpiau tai cymunedol hefyd yn gallu cael gafael ar y cyllid ar gyfer eiddo gwag maent yn eu caffael i’w hadfer fel tai fforddiadwy.
Gellir gweld rhestr o'r awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yma Gwneud cais am grant cartrefi gwag | LLYW.CYMRU. Bydd rhagor o awdurdodau lleol yn cael eu hychwanegu at y rhestr pan fyddant yn barod i gael ceisiadau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan £50m i adfer cartrefi gwag | LLYW.CYMRU