Cynllun Grant newydd gwerth £455,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithgareddau diwylliannol ar lawr gwlad neu rai wedi’u harwain gan y gymuned pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Mae Diverse Cymru yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn rheoli'r Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer Sefydliadau ar Lawr Gwlad Llywodraeth Cymru ac y bydd y cynllun yn agor ar gyfer ceisiadau ganol mis Awst 2023.
Mae Cynllun Grant Diwylliant Llywodraeth Cymru ar gyfer Sefydliadau Llawr Glwad yn un o ystod o weithgareddau a fydd yn cefnogi pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, gan gynnwys pobl o gymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr, i gael mynediad teg at weithgareddau diwylliannol ledled Cymru a chymryd rhan ynddynt.
Mae'r Cynllun Grant yn ymateb uniongyrchol i ddau gam gweithredu penodol yn adran Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae'n mynd i'r afael â'r angen i adolygu ceisiadau am gyllid i wella canlyniadau ar gyfer sefydliadau pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig neu bobl o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac mae’n clustnodi adnoddau i gefnogi gweithgareddau diwylliannol a chreadigol ar lawr gwlad ymhlith grwpiau pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Bydd grwpiau a sefydliadau yn gallu gwneud cais am gyllid gwerth hyd at £30,000 gan ddibynnu ar faint a statws cyfansoddiadol y grŵp a byddant yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau a grwpiau sy'n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gelf weledol, celf gymunedol, dawns, carnifal, gwyliau, perfformiad, llenyddiaeth a cherddoriaeth.
Cynhelir digwyddiadau ymgysylltu ar-lein drwy gydol mis Awst a mis Medi lle bydd grwpiau â diddordeb yn gallu cyfarfod â'r gweinyddwyr grant i ddarganfod mwy.
Os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr e-bost i gael mwy o wybodaeth ac i gael gwybod pryd mae'r grant yn agor, anfonwch e-bost at grants@diverse.cymru
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Culture Grant Scheme - Diverse Cymru