Mae’r Cynllun Grant Tollau wedi’i sefydlu i helpu busnesau i baratoi ar gyfer trefniadau tollau newydd o 1 Ionawr 2021. Mae hyn yn cynnwys cefnogi busnesau sy’n masnachu gyda’r UE i gynnal hyfforddiant i wella eu dealltwriaeth o ofynion tollau a gweithio gyda chyfryngwyr tollau. Mae hefyd yn helpu cyfryngwyr tollau i wella eu gallu i gwblhau datganiadau tollau a chyflymu twf y sector er mwyn ymateb i’r cynnydd mewn galw o 1 Ionawr 2021.
Pa grantiau sydd ar gael drwy’r cynllun grant?
Mae tri math gwahanol o grantiau ar gael drwy’r Cynllun Grant Tollau:
- Grantiau ar gyfer Hyfforddiant Masnachwyr: hyd at £1,000
- Grantiau ar gyfer TG, Hyfforddiant a Recriwtio: hyd at 200,000 Ewro
- Grantiau ar gyfer Prosiect Hyfforddiant a Gyllidir ar y Cyd: hyd at 2 filiwn Ewro
Ewch i grantiau ar gael i ganfod mwy am bob grant, neu defnyddiwch y gwiriwr grantiau i weld pa grantiau y gallwch wneud cais amdanynt.