BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Grantiau Gwirfoddoli Cymru

Group of Diverse Hands Together Joining Concept

Cynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella gwirfoddoli yng Nghymru yw Grantiau Gwirfoddoli Cymru.

Gwirfoddoli yw un o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol sy’n olrhain cynnydd Cymru yn erbyn nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Er mwyn ymwreiddio gwirfoddoli, creu cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd uchel a chael pobl ifanc i gymryd rhan, mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido tri cynllun allweddol o dan Gwirfoddoli Cymru:

  • Cynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru
  • Gwirfoddoli Cymru Rownd Grantiau Strategol - Os hoffech glywed am gylchau posibl yn y dyfodol, cofrestrwch yma.
  • Grantiau  Dan Arweiniad Ieuenctid - Os hoffech glywed am gylchau posibl yn y dyfodol, cofrestrwch yma.

Cynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru

Amcanion y grant:

  • Cynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan a’u cadw drwy chwalu’r rhwystrau i wirfoddoli i bobl o bob oed ac o bob rhan o’r gymdeithas.
  • Cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli cadarnhaol o ansawdd uchel sy’n ceisio recriwtio, cynorthwyo a hyfforddi gwirfoddolwyr.
  • Hyrwyddo newidiadau yn y mudiadau a fydd yn cael budd er mwyn gwneud gwirfoddoli’n rhan o’u diwylliant, ee ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr.

Mae cyllid ar gael i fudiadau nid-er-elw sy’n cynnig prosiectau hyd at 12 mis, am hyd at £25,000.

Ar hyn o bryd mae’r cynllun ar agor i ymgeiswyr tan 22 Rhagfyr 2023.

Am ragor o wybodaeth ewch i: Cynllun Grantiau Gwirfoddoli Cymru - CGGC (wcva.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.