Olynydd y Cynllun Benthyciadau Adfer yw’r Cynllun Gwarant Twf.
Fe'i cynlluniwyd i gynorthwyo busnesau llai o faint yn y DU i gael mynediad at gyllid wrth iddynt geisio buddsoddi a thyfu. Lansiwyd y Cynllun Gwarant Twf gyda benthycwyr achrededig ar 1 Gorffennaf 2024, gydag ystod eang o gynnyrch yn cael eu cefnogi gan wahanol fenthycwyr, gan gynnwys benthyciadau tymor penodol, gorddrafftiau, cyllid ar gyfer asedau, cyllid ar sail anfoneb a benthyca ar sail asedau.
Yn gyffredinol, gall y Cynllun Gwarant Twf gefnogi maint cyfleusterau hyd at £2 miliwn ac mae’n rhoi gwarant a gefnogir gan y llywodraeth o 70% i’r benthyciwr.
Gall busnesau ddefnyddio’r cyllid at unrhyw ddiben busnes cyfreithlon – gan gynnwys rheoli llif arian a buddsoddi. Fodd bynnag, rhaid i fusnesau allu fforddio ymgymryd â dyled ychwanegol at y dibenion hyn.
Banc Busnes Prydain sy'n gweinyddu'r cynllun ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach.
Cliciwch ar y ddolen sydd wedi’i hatodi i gael rhagor o wybodaeth: Growth Guarantee Scheme (GGS) | British Business Bank (british-business-bank.co.uk)