BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg: adroddiad terfynol 2018 i 2024

Laptop with colourful screen

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith arloesol i sicrhau lle amlycach i’r Gymraeg yn y dechnoleg rydyn ni’n ei defnyddio bob dydd.

Mae hyn yn gwneud ein hiaith yn fwy parod ar gyfer datblygiadau deallusrwydd artiffisial, yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg heddiw (20 Chwefror 2024).

Ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg ddiwedd 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi creu a chomisiynu adnoddau a data i wella technoleg yn y Gymraeg. Mae hefyd wedi cefnogi datblygu technoleg llais yn Gymraeg, a datblygu’r Gymraeg mewn deallusrwydd artiffisial (AI).

Ymysg rhai o gyflawniadau’r Cynllun mae datblygu technoleg i droi Cymraeg llafar yn destun ysgrifenedig, creu lleisiau synthetig ar gyfer pobl sy’n colli’r gallu i siarad, datblygu cyfieithu peirianyddol arbenigol, a gweithio gyda’r cwmni y tu ôl i ChatGPT, OpenAI, i wella sut mae eu sgwrsfot mwyaf pwerus, GPT-4, yn prosesu’r Gymraeg.

Fel rhan o bartneriaeth Llywodraeth Cymru â Microsoft, maen nhw wedi cydweithio i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd o fewn cyfarfodydd Microsoft Teams. Mae hwn ar gael heb gost ychwanegol i’r sawl sydd â thrwydded Teams presennol. Mae gwaith yn parhau gyda Microsoft i ddatblygu'r cyfleuster hwn ymhellach gyda'r gobaith y gall hyn arwain at greu adnoddau tebyg a newydd ar gyfer ieithoedd sy’n cael eu siarad ledled y byd, yn seiliedig ar y gwaith yma yng Nghymru.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:

Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg yn eich busnes wneud gwahaniaeth mawr. Helo Blod yw eich gwasanaeth cyngor a chyfieithu Cymraeg cyflym a chyfeillgar. Ac mae am ddim. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.