Mae’r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru (WCRC) a Llywodraeth Cymru wedi dod at ei gilydd i lansio menter newydd, rhad ac am ddim ar gyfer sector gofal cymdeithasol Cymru sy'n cynnig cyfle i sefydliadau gael hyfforddiant seiberddiogelwch.
Gan gyfrannu £51 biliwn at economi'r DU, mae'r sector gofal cymdeithasol yn gweld twf digynsail mewn ymosodiadau seiber fel targed gwerth uchel i droseddwyr, gyda meddalwedd wystlo fel y bygythiad mwyaf.
Mae cynllun hyfforddi Cyber Ninjas - sy'n cael ei gyflwyno gan WCRC ac yn cael ei ddarparu gan Matobo Learning drwy ei blatfform - yn darparu cyllid ar gyfer 2,500 o drwyddedau hyfforddi gofal cymdeithasol mewn seiberddiogelwch gan alluogi staff yn y sector i gael mynediad uniongyrchol, am ddim, i'r adnodd hwn.
I gael mwy o wybodaeth am gofrestru staff ar raglen hyfforddi Cyber Ninjas am ddim, cliciwch ar y ddolen ganlynol The WCRC and Welsh Government offering free cyber security training to social care organisations (wcrcentre.co.uk)