BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun i gefnogi cymunedau arfordirol

Lightbulb depicting innovation

Bydd cynllun i gefnogi prosiectau lleol yn ardaloedd arfordirol Cymru yn elwa ar gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y bydd y Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn bwysig wrth helpu cymunedau arfordirol i wella canlyniadau amgylcheddol.   

Nod y gronfa yw adeiladu capasiti, gan helpu cymunedau i gymryd camau cynaliadwy sy’n ategu twf ac adferiad mewn ardaloedd morol ac arfordirol lleol. 

Mae’r mathau o brosiect y gallai’r gronfa eu helpu yn amrywio o ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau er mwyn mynd i’r afael â phroblemau sy’n gysylltiedig â’r môr a’r arfordir, i gynnal ymarferion cwmpasu i geisio lleihau allyriadau carbon yn yr amgylchedd morol ac arfordirol.

Gallai hefyd helpu i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ecosystemau lleol a sut i’w rheoli a’u defnyddio mewn modd cyfrifol, yn ogystal â chefnogi prosiectau sy’n gwella cadwyni cyflenwi bwyd y môr lleol.

Cafodd prosiect peilot ei lansio'r llynedd ac mae’r cyhoeddiad heddiw (14 Awst 2023) yn adeiladu ar hwn. Mae gan y gronfa gyllideb flynyddol o £500,000 ar gyfer dwy flynedd. Rhaid i’r holl brosiectau fod wedi’u cwblhau erbyn 31 Mawrth 2025. Mae’r broses ymgeisio’n agor ar ddydd Llun 14 Awst 2023 ac yn cau ar ddydd Gwener 22 Medi 2023.

Bydd y gronfa’n cael ei rheoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fel rhan o Rwydwaith Partneriaethau Natur Lleol.

Am wybodaeth bellach, dilynwch y ddolen ganlynol: Cynllun i gefnogi cymunedau arfordirol | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.