gyfer prosiectau sy'n tyfu eu gweithgareddau arloesi yn y clwstwr technoleg amaeth a thechnoleg bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Daw'r cyllid hwn gan Innovate UK.
Mae'r Cynllun Lansio hwn hefyd yn cefnogi consortiwm dan arweiniad Cyngor Sir Ceredigion fel y sefydliad rheoli clwstwr lleol.
Nod y gystadleuaeth hon yw cefnogi prosiectau arloesi rhagorol a arweinir gan fusnesau. Rhaid i'ch busnes ddefnyddio'r cyllid i dyfu eich gweithgareddau arloesi yn y clwstwr technoleg amaeth a thechnoleg bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, yn ystod ac ar ôl y prosiect.
Ar gyfer y gystadleuaeth hon, mae Canolbarth a Gogledd Cymru yn cynnwys Ceredigion, Powys, Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae'n rhaid i'ch prosiect:
- fod â chyfanswm cais am gyllid grant rhwng £25,000 a £100,000
- para rhwng 6 a 12 mis
- cyflawni ei holl waith prosiect yn y Deyrnas Unedig
- bwriadu manteisio ar y canlyniadau o'r Deyrnas Unedig neu yn y Deyrnas Unedig
- ddim dechrau cyn 1 Ebrill 2025
- dod i ben ar 30 Mehefin 2026
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 11 Rhagfyr 2024 am 11am.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Competition overview - Launchpad: agri-tech and food technology, Mid & North Wales – MFA - Innovation Funding Service
Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd ariannu sydd ar gael i fusnesau Cymru i arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi.
Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael gafael ar y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-lein (business-events.org.uk)