Mae The Henry Royce Institute for Advanced Materials yn cynnig mynediad at gyfarpar gwyddor a pheirianneg deunyddiau modern i gefnogi BBaChau, cwmnïau deillio a busnesau newydd.
Mae Cynllun Mynediad at Gyfarpar i BBaChau Royce (yr hen Gynllun Talebau Cyflymu Deunyddiau) ar gael i BBaChau, cwmnïau deillio a busnesau newydd sydd wedi’u lleoli yn y DU ac yn cynnig mynediad at gyfleusterau gyda chymhorthdal, sy’n berffaith ar gyfer busnesau sy’n chwilio am ddatrysiadau i rwystrau i ddadansoddi deunyddiau.
Nod y cynllun yw:
- goresgyn rhwystrau costau a dadrisgio ymchwil a datblygu seiliedig ar ddeunyddiau arbrofol
- helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer cydweithio gyda Royce yn y dyfodol
Gall cwmnïau nodi darn o gyfarpar penodol sydd ei angen arnynt neu drafod pa dechnegau allai weithio orau ar gyfer dadansoddi seiliedig ar ddeunyddiau gyda Thimau Ymgysylltu â Busnes ac Ymchwil a Chyfleusterau.
Mae’n rhaid cwblhau prosiectau erbyn 20 Mawrth 2021.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Henry Royce Institute.