Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun newydd i alluogi busnesau bach a chanolig, neu 'BBaChau', gael at gymorth iechyd a lles.
Mae Gweinidogion yn darparu £8 miliwn i ddarparu'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith newydd ledled Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd y gwasanaeth yn darparu mynediad yn rhad ac am ddim at gymorth therapiwtig i weithwyr BBaChau neu'r hunangyflogedig. Bydd cymorth ar gael i bobl sy'n absennol o’r gwaith, neu sydd mewn perygl o fod yn absennol, oherwydd salwch meddyliol neu gorfforol, gan eu helpu i aros yn y gwaith neu i ddychwelyd. Bydd y cynllun hefyd ar gael i gyflogwyr yn y trydydd sector.
Bydd cymorth therapiwtig yn cael ei ddarparu ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol cyffredin, gan gynnwys ffisiotherapi, osteopathi, ciropodi a phodiatreg. Bydd cymorth iechyd meddwl hefyd yn cael ei gynnig, gan gynnwys cwnsela a chymorth i reoli straen.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cynllun newydd i gefnogi lles staff mewn busnesau bach (llyw.cymru)