BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun newydd i lansio sector gofod Cymru i orbit

Heddiw (21 Chwefror 2022), bydd Llywodraeth Cymru yn lansio strategaeth newydd i sicrhau bod Cymru’n gweithredu ar flaen y gad yn y sector gofod byd-eang, gan helpu i greu swyddi o ansawdd uchel ar hyd a lled y wlad.

Mae’r strategaeth yn tynnu sylw at yr amgylchedd ffisegol a busnes unigryw y mae Cymru’n ei gynnig i gwmnïau sy’n chwyldroi galluoedd yn y sector gofod. Mae hefyd yn nodi sut y gallai Cymru fod y genedl gofod gynaliadwy gyntaf erbyn 2040, gan arwain y ffordd at ofod gwyrddach.

Ers 2010, gofod yw un o sectorau’r DU sydd wedi tyfu gyflymaf, gan dreblu mewn maint ers yr amser hwnnw. Mae’r sector bellach yn cyflogi 42,000 o bobl ac yn cynhyrchu incwm o £14.8 biliwn bob blwyddyn.

Mae sector gofod y DU eisoes wedi gosod targed o gyflawni cyfran 10% o farchnad flynyddol y sector gofod a ragwelir fydd yn werth £440 biliwn yn 2030. Uchelgais Llywodraeth Cymru yw i Gymru gyflawni cyfran 5% o gyfran y DU, a fyddai’n cyfateb i £2 biliwn y flwyddyn ar gyfer economi Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cynllun newydd i lansio sector gofod Cymru i orbit | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.