BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun newydd i roi mwy o fwyd a diod o Gymru ar silffoedd siopau

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd fydd yn helpu busnesau bwyd a diod o Gymru i gael eu cynnyrch ar silffoedd y siopau mwyaf.

Mae Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod Cymru wedi cael ei ddatblygu gyda chymorth grŵp o arbenigwyr o’r diwydiant i weld mwy o dwf yn nhrosiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru o’i gymharu â’r sector yn y DU gyfan.

Mae wyth amcan i’r cynllun, gan gynnwys creu llif o fusnesau bwyd a diod entrepreneuraidd newydd a chyflymu twf busnesau sydd â throsiant o fwy na £10m yn y sector manwerthu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.