BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun peilot Cronfa Uwchsgilio AI Hyblyg: yn derbyn ceisiadau

AI training and laptop

Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) gynllun peilot £7.4 miliwn, i gynnig cymhorthdal ar gyfer cost hyfforddi sgiliau deallusrwydd artiffisial (AI) i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) yn y sector Gwasanaethau Busnes Proffesiynol. Mae £6.4 miliwn o gyllid grant ar gael.

Bydd cynllun peilot y Gronfa Uwchsgilio AI Hyblyg yn cefnogi BBaChau yn y Sector Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes drwy roi arian cyfatebol er mwyn talu am hyfforddiant sgiliau AI ar gyfer eu gweithwyr.

Trwy’r rhaglen beilot hon, gall busnesau cymwys wneud cais am gyllid ar gyfer hyd at 50% o gost hyfforddi sgiliau AI.  Bydd yr hyfforddiant hwn yn cynorthwyo cyflogeion i ddatblygu eu sgiliau technegol a/neu eu dealltwriaeth o AI i allu datblygu, cyflwyno, neu ddefnyddio AI yn eu rôl.

Mae'r gystadleuaeth am gyllid yn agored i ymgeiswyr sydd:

  • wedi'u cofrestru ac yn gweithredu yn y DU
  • yn cyflogi rhwng 1 a 249 o weithwyr yn y DU
  • yn cael eu diffinio fel BBaCh yn unol â Chynllun Gweithredu BBaCh yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS)
  • wedi bod yn weithredol ers o leiaf blwyddyn
  • yn gallu cyd-ariannu 50% o gost yr hyfforddiant, ac
  • yn gweithredu yn y sector Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes

Mae'r cyfnod ymgeisio ar agor tan 12pm ar 31 Mai 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Flexible AI Upskilling Fund pilot - GOV-UK Find a grant (find-government-grants.service.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.