Os ydych chi’n ddinesydd yr UE, yr AEE neu’r Swistir, gallwch chi a’ch teulu wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i barhau i fyw yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch naill ai’n cael statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog, gan ddibynnu ar hyd y cyfnod yr ydych chi wedi preswylio’n barhaol yn y DU. Os ydych chi wedi byw yn y DU am 5 mlynedd neu ragor gallwch wneud cais am statws preswylydd sefydlog ac os ydych chi wedi byw yn y DU am lai na 5 mlynedd gallwch wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog.
Cyflogwyr dinasyddion yr UE
Mae pecyn cymorth ar gael sy’n rhoi adnoddau a gwybodaeth i gyflogwyr er mwyn iddynt allu rhoi cymorth i ddinasyddion yr UE a’u teuluoedd ynghylch y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.