BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefelau Rhybudd yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi diweddariad i'r Cynllun Rheoli’r Coronafeirws, sy'n adeiladu ar y fframwaith cyfyngiadau ‘goleuadau traffig’ a gyflwynwyd yn wreiddiol ym mis Mai 2020. 

Mae’r cynllun wedi’i ddiweddaru yn sefydlu pedair lefel rhybudd, sy'n cyd-fynd â'r mesurau y bydd angen iddynt fod ar waith i reoli lledaeniad y feirws yn ystod cyfnod anodd y gaeaf ac i ddiogelu iechyd pobl.

Mae’r cynllun yn esbonio hefyd sut a phryd y bydd Cymru’n symud rhwng y gwahanol lefelau rhybudd hyn. Mae'r mesurau hyn ar gyfer Cymru gyfan wedi'u cynllunio i fod mor syml, mor deg ac mor glir â phosibl a byddant yn rhoi mwy o sicrwydd i bobl a busnesau ynghylch pa gyfyngiadau cyfreithiol fydd yn cael eu cyflwyno, yn dibynnu ar lefel y risg, gan eu helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan LLYW.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.