Mae Defra yn treialu Rheoliad busnes ar gyfer system TG cofrestru, gwerthuso, awdurdodi a chyfyngu ar gemegau er mwyn rheoleiddio cadwyni cyflenwi cemegau ar ôl Brexit.
Mae’n chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer cyfleoedd profi parhaus hyd at ddiwedd 2020; cynhelir y cyfleoedd hyn o bell a byddant yn helpu i wella swyddogaethau ar gyfer lansio’r gwasanaeth a gwaith datblygu ar ôl Diwrnod Un.
Mae Defra yn awyddus iawn i glywed gan unigolion nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o wasanaeth Cydymffurfio â REACH y DU, naill ai yn eu hymarferion Model Office blaenorol neu mewn profion defnyddwyr un i un. Byddant yn bodloni’r gofynion canlynol:
- Defnyddwyr sy’n defnyddio cemegau
- Mewnforwyr
- Dosbarthwyr
- Defnyddwyr cofrestr gyhoeddus ECHA
- Gwasanaethau ymgynghori sy’n cynnig gwasanaethau amrywiol, gan gynnwys cynrychioli trydydd partïon
- Sefydliadau ymchwil a datblygu
- Rheolwyr consortia
- Gweinyddwyr/rheolwyr cyfrifon REACH
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch REACH-IT@defra.gov.uk