BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun twf busnes ar agor i’r grŵp nesaf o entrepreneuriaid gofod

Mae Rhaglen Leo yn sbardunwr un-i-un pwrpasol ar gyfer entrepreneuriaid twf uchel a darpar entrepreneuriaid llawn potensial.

Bydd ugain o fusnesau yn cael eu cefnogi yng ngham nesaf Rhaglen Leo, sef sbardunwr chwe mis am ddim a gynhelir gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig ac a rymusir gan Entrepreneurial Spark, lle byddant yn gallu cael gafael ar gymorth ar-lein a phersonol arbenigol gan arbenigwyr yn y diwydiant gofod ac ym maes twf busnes.

Mae’r rhaglen ar gael i fusnesau sydd eisoes yn y sector gofod a’r rhai sydd eisoes yn archwilio’r posibiliadau a gyflwynir gan y diwydiant. Gall cwmnïau sy’n gweithio mewn diwydiant cysylltiedig ac sy’n chwilio am lwybr i’r sector gofod hefyd wneud cais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Medi 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan  Entrepreneurial Spark


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.