BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun yswiriant sydd â chefnogaeth Llywodraeth y DU i roi hwb i’r diwydiant digwyddiadau

Mae Llywodraeth y DU wedi gweithio mewn partneriaeth â Lloyds i ddarparu’r Cynllun Ailyswirio Digwyddiadau Byw. O dan y cynllun, bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu fel ‘ailyswiriwr’ - gan gamu i’r adwy gyda gwarant i sicrhau y gall yswirwyr gynnig y cynhyrchion sydd eu hangen ar gwmnïau digwyddiadau.

Bydd y cynllun yn cefnogi digwyddiadau byw ledled y DU sydd ar gael i’r cyhoedd - fel gwyliau cerddoriaeth a digwyddiadau busnes. Bydd yn talu’r costau a geir pe bai digwyddiad yn gorfod cael ei ganslo oherwydd nad oes modd iddo gael ei gynnal yn gyfreithlon yn sgil cyfyngiadau Covid.

Bydd y cynllun ar gael rhwng mis Medi 2021 a diwedd mis Medi 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.