BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynlluniau Diogelwch Amddiffynnol ar gyfer Mannau Addoli

Sut i wneud cais am gyllid diogelu i warchod eich man addoli yn erbyn troseddau casineb.

Yn 2023 a 2024, mae’r Swyddfa Gartref yn parhau i ddarparu mesurau diogelwch amddiffynnol i fannau addoli yng Nghymru a Lloegr o dan ddau gynllun, sef:

  • Cynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynnol ar gyfer Mannau Addoli
  • Cynllun Diogelwch Amddiffynnol ar gyfer Mosgiau

Mae’r cynlluniau’n darparu cyllid ar gyfer mannau addoli a chanolfannau cymunedol sy’n gysylltiedig â ffydd, sy’n agored i droseddau casineb. Nod y cynlluniau hyn yw lleihau troseddau casineb er mwyn i bobl allu teimlo’n ddiogel i fynychu gweithredoedd addoli ac ymarfer eu crefydd yn rhydd.

Trwy’r cynlluniau hyn, gall mannau addoli bregus wneud cais am fesurau diogelwch amddiffynnol corfforol, fel camerâu cylch cyfyng, ffensys diogel, a larymau tresmaswyr.

Mae’r broses ymgeisio ar agor tan 15 Awst 2023. 

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Protective security schemes for places of worship - GOV.UK (www.gov.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.