Nid yw cofrestriadau cynlluniau rhyngwladol a ddiogelir sy’n dynodi’r UE yn ddilys bellach yn y DU. Mae’r hawliau hyn wedi’u disodli’n awtomatig gan hawliau’r DU.
Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi gyda gwybodaeth am newidiadau ar gyfer busnesau a deiliaid cynlluniau rhyngwladol a ddiogelir gan yr UE, gan gynnwys:
- Creu'r cynllun rhyngwladol ailgofrestredig
- Rhifo'r cynllun rhyngwladol ailgofrestredig
- Ceisiadau dan ystyriaeth
- Optio allan o ddal cynllun rhyngwladol ailgofrestredig
- Adnewyddu ac adfer
- Cyhoeddi gohiriedig
Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.