Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd a chynadleddau busnes i fusnes (B2B) i hyrwyddo busnesau Cymru a Chymru.
Bydd hyn yn creu cyfleoedd i fusnesau yng Nghymru gymryd rhan gyda ni o dan faner Cymru.
Mae Tîm Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel Llywodraeth Cymru yn cynllunio presenoldeb yn y digwyddiadau a restrir isod, yn amodol ar ddiddordeb digonol gan gwmnïau Cymreig.
DYDDIAD | DIGWYDDIAD | LLEOLIAD | SECTOR |
---|---|---|---|
19 - 20 Mawrth 2025 | Farnborough International Space Show (FISS) | Farnborough, DU | Gofod |
21 - 25 Mai 2025 | DSEI Japan | Tokyo, Japan | Amddiffyn |
19 - 21 Mai 2025 | JSAE | Yokohama, Japan | Modurol |
16 - 20 Mehefin 2025 | Paris Air Show | Paris, Ffrainc | Awyrofod |
18 -19 Mehefin 2025 | MOVE Mobility | Llundain. DU | Modurol |
16 - 17 Gorffennaf 2025 | UK Space Conference | Manceinion, DU | Gofod |
2 - 4 Medi 2025 | Cenex Expo | Millbrook, DU | Modurol |
9 - 12 Medi 2025 | DSEI | Llundain, DU | Amddiffyn |
14 - 16 Hydref 2025 | MRO Europe | Llundain, DU | Awyrofod |
Hydref | ADS Toulouse | Toulouse, Ffrainc | Awyrofod |
18 - 20 Tachwedd 2025 | Space Tech Expo Europe | Bremen, Yr Almaen | Gofod |
Os hoffech gymryd rhan ebostiwch itd.events@gov.wales i gael y prisiau a ffurflen Mynegi Diddordeb.
Mae nifer o ddigwyddiadau masnach eraill ar gael ar gyfer amrywiaeth o sectorau, i gyd i’w gweld yn Busnes Cymru, gan gynnwys y dudalen Digwyddiadau Allforio Tramor. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer e-gylchlythyr wedi'i deilwra.