
Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi manylion yr uwchgynhadledd buddsoddi rhyngwladol fawr sy'n cael ei chynnal yng Nghymru yn nes ymlaen eleni.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Llun 1 Rhagfyr 2025, yng Nghanolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru (ICC Cymru) a chyrchfan y Celtic Manor yng Nghasnewydd.
Bydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i fuddsoddwyr tramor. Ar hyn o bryd mae tua 1,480 o gwmnïau dan berchnogaeth dramor yn gweithredu yng Nghymru, gan gyflogi mwy na 174,000 o weithwyr.
I gyd-fynd â'r cyhoeddiad heddiw, mae Cadence Design Systems Inc, arweinydd meddalwedd dylunio lled-ddargludyddion o'r Unol Daleithiau, wedi cyhoeddi cynlluniau i agor canolfan ddylunio newydd yng Nghaerdydd, gan greu mwy na 100 o swyddi medrus iawn. Bydd Canolfan Ddylunio Cadence, menter ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Compound Semiconductor Applications Catapult, yn dylunio sglodion ar gyfer lled-ddargludyddion, gan greu cronfa gref o raddedigion talentog i helpu i fynd i'r afael â phrinder sgiliau yn y diwydiant.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Cynnal “digwyddiad busnes mwyaf Cymru erioed” ym mis Rhagfyr | Welsh Govenment News