BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynnig canllawiau symlach i sefydliadau i'w helpu i symud i'r cwmwl

Mae canllawiau diogelwch cwmwl wedi cael eu hadnewyddu i gefnogi busnesau bach i sefydliadau mawr sy'n symud i wasanaethau yn y cwmwl. 

Bydd y canllawiau wedi’u hadnewyddu gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – sy'n rhan o GCHQ – yn helpu sefydliadau i gefnogi mudo eu data a'u gwasanaethau ar-lein yn ddiogel i'r cwmwl. 

Mae sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat yn defnyddio manteision atebion cwmwl fwyfwy i symleiddio eu gweithrediadau, ac mae'r Canllaw Diogelwch Cwmwl diweddaraf wedi cael ei wneud yn fwy hygyrch i fodloni’r ystod fwyfwy amrywiol o sefydliadau sy’n symud eu gweithrediadau ar-lein.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Organisations offered streamlined guidance to help them... - NCSC.GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.