Ym mis Ebrill, ataliwyd y Cynnig Gofal Plant dros dro er mwyn gallu canolbwyntio adnoddau ar anghenion gofal plant gweithwyr hanfodol a phlant a oedd yn agored i niwed drwy Gynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws.
Wrth i Gymru gymryd camau i lacio’r cyfyngiadau ymhellach, ac wrth i ysgolion baratoi i ailgydio o fis Medi, bydd y Cynnig yn dechrau derbyn ceisiadau o’r newydd, gan alluogi teuluoedd i fanteisio ar y gofal plant.
Bydd modd i rieni a fyddai wedi bod yn gymwys i fanteisio ar y Cynnig yn ystod tymor yr haf, ond a gollodd dymor cyfan am nad oeddent wedi dechrau defnyddio’r Cynnig cyn y pandemig, gyflwyno eu ceisiadau o ganol Awst.
Caiff ceisiadau gan rieni y bydd eu plentyn yn gymwys ar gyfer y Cynnig yn yr hydref eu hystyried o ddechrau Medi ymlaen.
Bydd manylion o ran pryd a sut i wneud cais ar gael ar wefannau awdurdodau lleol a thrwy Wasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.