BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynnydd o £1.6 miliwn mewn gwerthiannau busnesau yn dilyn cyllid gan Lywodraeth Cymru

Diverse Team of Engineers, Managers Talking at Conference Table

Mae gwerth miloedd o bunnoedd o werthiannau wedi'u cynhyrchu gan gwmnïau yn ne-ddwyrain Cymru diolch i raglen ariannu gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i chynllunio i helpu busnesau ddiogelu eu hunain at y dyfodol.

Lansiwyd Prosiect Gwella Cynhyrchiant Busnes (BPEP) Llywodraeth Cymru yn 2020 drwy'r rhaglen Cymoedd Technoleg, mewn cydweithrediad â rhaglen Arloesi SMART Lywodraeth Cymru a ariennir gan Ewrop. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddarparu cymorth i wella cynhyrchiant, gweithgynhyrchu digidol, dylunio cynnyrch, eiddo deallusol ac Ymchwil a Datblygu, gan wneud hynny i ddechrau drwy adroddiad diagnostig cynhyrchiant a dylunio am ddim a chynllun Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS). Gall cwmni ddefnyddio'r grant i weithredu argymhellion a nodir yn eu hadroddiad diagnostig.

Nod y prosiect yw annog a galluogi busnesau i ddiogelu at y dyfodol wrth wella effeithlonrwydd drwy gyflwyno technoleg newydd, arallgyfeirio eu sylfaen cwsmeriaid, a datblygu cynhyrchion newydd.  Yn ogystal, ei nod yw cynyddu diogelwch gweithwyr ac ansawdd eu cyflogaeth, drwy godi lefelau sgiliau a chyflogau.  Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd fodloni gofynion Contract Economaidd Llywodraeth Cymru, sydd a'r nod o yrru gwaith teg, twf cynhwysol ac ymddygiad busnes cyfrifol.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Cynnydd o £1.6 miliwn mewn gwerthiannau busnesau yn dilyn cyllid gan Lywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.