Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI wedi lansio tair her newydd gyffrous.
Her 1: Cyfathrebiadau Cleifion
Mae cyllid ar gael i fusnesau a'r byd academaidd weithio gyda chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Byrddau Iechyd eraill ledled Cymru i ddatblygu atebion arloesol i helpu i wella mynediad at wybodaeth ar gyfer perthnasau cleifion tra bod eu hanwyliaid yn yr ysbyty a lleihau'r galw ar amser staff.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Simply Do - Patient Comms
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yma yw hanner dydd, 14 Rhagfyr 2022.
Her 2: Anhwylderau MSK ar gyfer Llawfeddygon ENT
Yn rhan o’r her hon, mae cyllid ar gael i fusnesau a'r byd academaidd weithio gyda Llawfeddygon y Glust, y Trwyn a’r Gwddf (ENT) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Byrddau Iechyd eraill ledled Cymru i ddatblygu atebion arloesol a all wella'r ergonomeg ar gyfer ENT wrth berfformio Llawdriniaeth Endosgopig y Glust.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Simply Do - ENT MSK Challenge
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yma yw hanner dydd, 6 Ionawr 2023.
Her 3: Gwaredu Nwyon Meddygol Ocsid Nitraidd ac Entonox yn Ddiogel ac yn Foesegol
Mae cyllid ar gael i fusnesau a'r byd academaidd weithio gyda chydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Byrddau Iechyd eraill ledled Cymru i ddatblygu a dangos atebion arloesol ar gyfer gwaredu'r nwyon hyn yn ddiogel, yn benodol o gwmpas y ddwy thema ganlynol:
- Thema 1 – gwaredu nwy yn ddiogel o fewn silindrau ocsid nitraidd wedi'u llenwi'n rhannol cyn eu dychwelyd i'r cyflenwr
- Thema 2 – ateb i'r broblem o'r lefelau uchel o Entonox sy'n cael eu rhyddhau i'r atmosffer ar ôl iddo gael ei ddefnyddio ar ein wardiau
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Simply Do - Safe Disposal of Medical Gases
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yma yw hanner dydd, 6 Ionawr 2023.
Digwyddiad briffio ar yr heriau newydd
Bydd y digwyddiad ar-lein am ddim yn rhoi cyfle i chi glywed gan y Perchnogion Her yn uniongyrchol am eu problem benodol a gofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych i'ch galluogi i gwblhau eich ceisiadau. Cynhelir y digwyddiad ar 30 Tachwedd 2022 am 1pm.
I drefnu lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol SBRI Health Programme 2022-2024: SBRI Health Programme 2022-2024: Briefing Event on New Challenges Tickets, Wed 30 Nov 2022 at 13:00 | Eventbrite
Cynhaliwyd y digwyddiad briffio ar 30 Tachwedd ac mae modd gwylio'r recordiad o'r digwyddiad yma https://youtu.be/W9MAdAazSeE