BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth Adeiladwyr Gwyrdd Yfory

Green building

Ydy’ch egin fusnes yn helpu i gyflymu llwybr Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at sero net? Ydych chi eisiau cynyddu ymwybyddiaeth o’ch egin fusnes ledled y Deyrnas Unedig a’r Dwyrain Canol? Os felly, dyma’r gystadleuaeth i chi.

Mae Uned Cyfalaf Menter yr Adran Busnes a Masnach yn lansio ei thrydedd gystadleuaeth dwf genedlaethol, sef ‘Adeiladwyr Gwyrdd Yfory’. Dyluniwyd y gystadleuaeth i amlygu’r cwmnïau cam cynnar gorau a fydd yn cefnogi uchelgais Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gefnogi swyddi gwyrdd a chyflymu llwybr y Deyrnas Unedig tuag at sero net. Mae ynni glân a thechnoleg amgylcheddol yn sectorau strategol ar gyfer y Deyrnas Unedig, yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Saudi Arabia.

Nod y gystadleuaeth hon yw amlygu a grymuso egin fusnesau yn y Deyrnas Unedig sy’n cefnogi amcanion Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fod yn sero net erbyn 2050, gan helpu’r Deyrnas Unedig i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy, cynaliadwyedd a thechnoleg amaethyddol.

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y cyfle unigryw hwn, cofrestrwch erbyn 12 Mawrth 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Green Builders of Tomorrow Comp (2023) (eventscloud.com) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.