BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth am Gyllid – Cynllun Lansio Canolbarth a Gogledd Cymru: Rheoli Clwstwr

Food technician/scientist

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am hyd at £150,000 ar gyfer prosiect i ddatblygu a rheoli’r clwstwr arloesi technoleg amaeth a thechnoleg bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru.

Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i ymgeiswyr unigol neu gydweithrediadau.

Er mwyn arwain prosiect mae'n rhaid i'ch sefydliad:

  • fod yn fusnes o unrhyw faint sydd wedi'i gofrestru yn y DU, yn sefydliad academaidd, yn sefydliad ymchwil a thechnoleg, yn elusen, yn sefydliad nid-er-elw neu’n sefydliad sector cyhoeddus
  • cyflawni ei waith prosiect yn y DU, a chael effaith yn y clwstwr arloesi technoleg amaeth a thechnoleg bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru

Rhaid i’ch cynnig ddisgrifio sut y byddwch yn datblygu ac yn rheoli’r clwstwr arloesi newydd hwn a rhaid i’ch prosiect fod yn gynhwysol a datblygu aeddfedrwydd y clwstwr arloesi er budd sefydliadau cysylltiedig yn lleol ac ar draws y DU.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 11am ar 10 Gorffennaf 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Competition overview - Mid and North Wales Launchpad: Cluster Management - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)

Mae gan Innovate UK nifer eang o gyfleoedd cyllid sydd ar agor i fusnesau Cymru i arloesi a fuddsoddi mewn Ymchwil Datblygu ac Arloesi.

Gall y tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gyrchi’r cyllid yma ac i helpu’ch busnes yn bellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein (business-events.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.