BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth Arddangos Morol Glân Rownd 2 – Dichonoldeb

Cyllid ymchwil a datblygu ar gyfer astudiaethau dichonoldeb a threialon technoleg mewn technolegau morol glân i gyflymu datgarboneiddio morol yn y DU. 

Bydd yr Adran Drafnidiaeth yn gweithio gydag Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU, i fuddsoddi £12 miliwn mewn astudiaethau dichonoldeb arloesol a phrosiectau cyn lleoli. 

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhan o gyfres o ymyriadau i'w lansio gan UK Shipping Office for Reducing Emissions (UK SHORE). Nod UK SHORE yw trawsnewid y DU yn arweinydd byd-eang o ran dylunio a gweithgynhyrchu technoleg forol lân. 

Mae dwy elfen i'r gystadleuaeth Arddangos Morol Glân Rownd 2: 

  • Elfen 1: Cystadleuaeth Arddangos Morol Glân Rownd 2 - Dichonoldeb (yr elfen hon)
  • Elfen 2: Cystadleuaeth Arddangos Morol Glân Rownd 2 – Ymchwil a Datblygu Cydweithredol 

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 11am ar 13 Gorffennaf 2022. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Competition overview - Clean Maritime Demonstration Competition Round 2 - Feasibility - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.